Session 16: Use of Welsh

1: Beth yw enw`r pentref yn nyffryn Teifi lle gallwch ymweld â`r amgueddfa wlân genedlaethol Cymru mewn hen felin wlân?

        1: What is the name of the village in the Teifi valley where you can visit the Welsh national wool museum in an old woollen mill?

2: Beth yw`r ffurf gelf Gymraeg draddodiadol lle mae alaw delyn yn cael ei chwarae a chanwr yn creu ei gwrth-alaw ei hun wrth ganu cerdd?

         2: What is the traditional Welsh art form in which a harp melody is played and a singer creates their own counter melody while singing a poem?

3: Beth yw enw`r hen fwynglawdd copr ym Môn, y mwyaf yng Nghymru, gyda dau bwll enfawr wedi`u ffurfio pan gwympodd siafftiau a thwneli tanddaearol?

         3: What is the name of the old copper mine in Anglesey, the largest in Wales, with two huge pits formed when underground shafts and tunnels collapsed?

4: Beth yw enw`r abaty ger Tregaron a sefydlwyd ym 1201 gan fynachod Sistersaidd, lle dywedir bod y bardd Dafydd ap Gwilym wedi`i gladdu?

         4: What is the name of the abbey near Tregaron which was established in 1201 by Cistercian monks, where the poet Dafydd ap Gwilym is said to be buried?

5: Beth yw enw`r rheilffordd wedi`i chadw sy`n gweithredu ar hyd darn byr o`r hen reilffordd Caerfyrddin i Aberystwyth?

         5: What is the name of the preserved railway which operates along a short section of the old Carmarthen to Aberystwyth railway?

6: Ger pa dref mae lleoliad parhaol prif sioe amaethyddol Cymru a gynhelir am bedwar diwrnod bob blwyddyn?

         6: Near what town is the permanent location of the main Welsh agricultural show which is held for four days each year?

7: Pwy adeiladodd bont grog Menai, a gwblhawyd ym 1826 ac roedd y bont grog fwyaf yn y byd ar y pryd?

         7: Who built the Menai suspension bridge, which was completed in 1826 and was the biggest suspension bridge in the world at the time?

8: Pa ynys oddi ar arfordir Sir Benfro sydd â math unigryw o lygod pengrwn (vole); mae tua 20,000 o lygod pengrwn ar yr ynys?

         8: What island off the coast of Pembrokeshire has a unique type of vole (llygoden bengron); there are approximately 20,000 voles on the island?

9: Ble`r oedd y ffatri alwminiwm a`r pentref yn Eryri a ddifrodwyd yn wael pan gwympodd argae ym 1925?

         9: Where was the aluminium factory and village in Snowdonia which were badly damaged when a dam collapsed in 1925?

10: Beth yw enw`r cwmni cerddoriaeth a sefydlwyd gan Dafydd Iwan sydd â stiwdio recordio ger Caernarfon ?

         10: What is the name of the music company founded by Dafydd Iwan which has a recording studio near Caernarfon?

11: Beth yw rhif y brif ffordd-A sy`n rhedeg o Gaerdydd i Landudno; mae`n ymddangos mewn cân sy`n cynnwys y llinell `Dwi ddim ond yn dymuno i`r daith bod yn gyflymach na hediad i Istambul`?

         11: What is the number of the main A-road running from Cardiff to Llandudno; it appears in a song containing the line `I only wish the journey was quicker than a flight to Istambul`?

12: Pa eitem ddomestig o`r Oes Efydd a ddarganfuwyd wedi`i chladdu yn Nannau ger Dolgellau, ac sy`n un o`r rhai cynharaf a gorau o`i math ym Mhrydain?

         12: What domestic item from the Bronze Age was found buried at Nannau near Dolgellau, and is one of the earliest and best of its type in Britain?

13: Ble treuliodd y Tywysog Charles dymor yn dysgu Cymraeg cyn ei arwisgiad yng Nghaernarfon?

         13: Where did Prince Charles spend a term learning Welsh before his investiture in Caernarfon?

14: Ar ôl pa nyrs ydy`r Bwrdd Iechyd yng Ngogledd Cymru wedi`i enwi; gweithiodd ochr yn ochr â Florence Nightingale yn Rhyfel y Crimea?

         14: After what nurse is the Health Board in North Wales named; she worked alongside Florence Nightingale in the Crimean War?

15: Beth sydd wedi`i gloddio ger pentref Pumsaint ers cyfnod y Rhufeiniaid?

         15: What has been mined near the village of Pumsaint since Roman times?

16: Pa ddylunydd ffasiwn, yn wreiddiol o Ferthyr Tudful, a agorodd ei siop gyntaf ym Machynlleth ac yna sefydlu ffatri yng Ngharno yng nghanol Cymru?

         16: What fashion designer, originally from Merthyr Tydfil, opened her first shop in Machynlleth then set up a factory at Carno in mid-Wales?